Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 19 Medi 2018
Amser:
09.02 -
10.39
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5129
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Jane Hutt AC Nick Ramsay AC David Rees AC Llyr Gruffydd AC |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) Gareth David Thomas (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Agorodd y Clerc y cyfarfod a galwodd am enwebiadau i ethol cadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod hwn ac ar gyfer y cyfarfod ar 27 Medi 2018.
1.2 Enwebwyd Llyr Gruffydd gan David Rees, ac fe'i hetholwyd yn gadeirydd dros dro.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC. Roedd Llyr Gruffydd yn bresennol ar ei ran.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i gymeradwyo unrhyw newidiadau pellach drwy e-bost.
5.1 Nododd y Pwyllgor yr offeryn statudol a gofynnwyd am ddiffiniad cyfreithiol o 'top-soil'.
6.1 Nododd y Pwyllgor y mentrau Senedd@ arfaethedig.
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunwyd i ystyried y fersiwn ddiwygiedig yn y cyfarfod nesaf.
8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull o graffu ar y gyllideb ddrafft a'r amserlen ar gyfer sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor yr hydref. Cytunodd y Pwyllgor i gynnal cyfarfod ar y cyd â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar asesiadau effaith yn y gyllideb.